Gall blant di-Gymraeg 'achosi problemau' yn ôl rhieni
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp ymgyrchu dros addysg Gymraeg wedi rhybuddio y gallai derbyn plant o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg achosi problemau i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn nwyrain Caerdydd.
Mae'r BBC ar ddeall bod 12 rhiant wedi cysylltu ag Ysgol Gyfun Bro Edern yn ceisio lle i'w plant yn yr ysgol ym mis Medi er nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg.
Wedi methu sicrhau lle yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, maen nhw am i'w plant fynd i ysgol Gymraeg yn hytrach na dewis ysgolion cyfrwng Saesneg fel ysgolion uwchradd Cathays neu Willows.
Mae'r mwyafrif o'r plant yn ddisgyblion Ysgol Gynradd Marlborough.
Yn ôl y cyngor, ar hyn o bryd mae llefydd ar gael mewn pum ysgol gyfun cyfrwng Saesneg ar draws y ddinas.
Achosi problemau
Dywedodd llefarydd: "Mae Uned Iaith yr awdurdod lleol yn helpu plant i drosglwyddo o ysgolion cyfrwng Saesneg i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.
"Mae Ysgol Marlborough o fewn dalgylch Ysgol Uwchradd Caerdydd ac mae 24 o ddisgyblion heb sicrhau llefydd y flwyddyn nesaf."
Mae grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dweud y gall y sefyllfa achosi problemau i Ysgol Bro Edern oherwydd na allan nhw ddygymod â phlant sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd "eu bod wrthi'n ceisio ffyrdd" i gefnogi'r pum plentyn o Ysgol Gynradd Marlborough sydd wedi ceisio'n swyddogol am le ym Mro Edern, a "darparu gwybodaeth i'r rhieni cyn iddyn nhw benderfynu'n derfynol."
'Cynllun peilot'
Yn ymateb i rybudd RhAG, dywedodd Gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone: "Cyn belled bod yr ysgol yn cael yr adnoddau i drochi'r plant hyn yn y Gymraeg, dylai addysg Gymraeg yng Nghaerdydd fod ar gael i bob plentyn.
"Dylen ni, yn ein prifddinas a ledled ein gwlad, anelu at addysg Gymraeg i bawb nid i'r rhai ffodus yn unig.
"Os ydyn ni am wireddu'r weledigaeth honno, dylid edrych i achub ar bob cyfle i ehangu addysg Gymraeg i bobl o bob cefndir, gall fod cyfle i Fro Edern, fel ysgol uwchradd newydd, dreialu cynllun peilot i drosglwyddo plant o addysg cyfrwng Saesneg i'r sector Gymraeg."