Rhybudd am dywydd garw yng ngorllewin a de Cymru

  • Cyhoeddwyd
glawFfynhonnell y llun, PA

Mae rhybudd am dywydd garw wedi ei gyhoeddi, gyda disgwyl i daranau a glaw trwm greu'r risg o lifogydd ddydd Mawrth.

Fe all hyd at 30mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd, ac mae pethau'n debygol o waethygu yn ystod y dydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y bydd 16 o ardaloedd awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain, y de-orllewin a'r canolbarth yn cael eu heffeithio.

Daw'r rhybudd melyn wedi cyfnod o dywydd cynnes dros y penwythnos.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Fynwy a Thorfaen.