Ffoaduriaid o Syria: Angen bod yn 'uchelgeisiol'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr cymunedol a chrefyddol yn ardal Wrecsam yn galw ar y cyngor i fod yn "uchelgeisiol" wrth groesawu ffoaduriaid o Syria.
Dydd Mawrth bydd pwyllgor gweithredol yr awdurdod yn trafod derbyn hyd at bump o deuluoedd o'r wlad, gan gynnig hafan ddiogel dros y flwyddyn nesa'.
Ond mewn llythyr agored at y grŵp mae Esgobion Catholig, Anglicanaidd ac arweinydd yr Eglwys Fethodistiaid, ymysg eraill yn galw ar Gyngor Wrecsam i "ystyried croesawu mwy".
Mae'r llythyr yn dweud: "Rydym yn teimlo bod croesawu 30 o bobl yn gam positif, ond y gallem wneud mwy, yn enwedig gan ystyried y bydd cyllid gan y Swyddfa Gartref yn golygu na fydd croesawu ffoaduriaid o Syria yn costio unrhyw beth o gwbl i'r cyngor.
"Rydym yn eich annog i fod yn fwy uchelgeisiol ac ystyried croesawu mwy o deuluoedd fel bod Wrecsam yn gallu arwain y ffordd yng Nghymru."
Mae'r Eglwys Fethodistaidd, cynrychiolwyr o'r gymuned Islamaidd a sefydliadau eraill hefyd wedi arwyddo'r llythyr.
Fe gyhoeddodd David Cameron wyth mis yn ôl y byddai'r Deyrnas Unedig yn derbyn 20,000 o ffoaduriaid o wersylloedd ger ffiniau Syria.