Ymddiheuriad am gamgymeriad 'hunanladdiad' mewn carchar
- Cyhoeddwyd

Mae teulu gafodd alwad ffôn yn dweud bod eu mab wedi lladd ei hun yn y carchar, pan nad oedd hynny wedi digwydd, wedi derbyn ymddiheuriad gan y llywodraeth.
Dywedodd Stephen Doughty, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, bod teulu carcharor yng Ngharchar Winson Green yn Birmingham wedi derbyn galwad yn gynharach yn y mis yn dweud am farwolaeth eu mab.
Cafodd hyn ei ddilyn gan ail alwad, rhyw hanner awr yn ddiweddarach, yn dweud bod eu mab yn fyw, meddai.
Mae'r Gweinidog Carchardai, Andrew Selous, wedi cytuno i ail-ymchwilio i'r achos.
Fe wnaeth Mr Doughty, AS lleol y carcharor, siarad yn Nhŷ'r Cyffredin i alw am ymchwiliad i'r digwyddiad.
Roedd yn feirniadol hefyd o'r "broses hir, biwrocrataidd" i drosglwyddo'r carcharor i uned iechyd meddwl.
Fe wnaeth Mr Selous ymddiheuro i deulu'r carcharor "am dderbyn newyddion ofnadwy oedd yn amlwg ddim yn wir".