Clwb Pêl-droed Llandudno yn gofyn am fenthyciad
- Published
Mae Clwb Pêl-droed Llandudno wedi gwneud cais i Gyngor Conwy am fenthyciad ariannol, er mwyn paratoi ar gyfer gemau Ewropeaidd y tymor nesa'.
Fe wnaeth y garfan greu hanes yn eu blwyddyn gynta' yn Uwch Gynghrair Cymru drwy sicrhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa.
Mae argymhelliad y dylai cabinet y cyngor ddarparu benthyciad o £30,000 i'r clwb a fyddai'n gorfod cael ei ad-dalu erbyn Rhagfyr 2016.
Bydd y cyngor yn trafod y cais mewn cyfarfod brynhawn ddydd Mawrth.
Fe fydd y clwb yn derbyn €200,000 - sydd gyfystyr a £157,600 - am gymhwyso ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa, ond ni fydd yr arian hwnnw yn cael ei dalu tan Rhagfyr 2016.
Mae'r clwb wedi gofyn am y benthyciad di-log, er mwyn cwrdd â'r costau sylweddol sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth.
Mae'r costau yn cynnwys: hedfan i Genefa ar gyfer y tynnu enwau timau o'r het, profion meddygol chwaraewyr, llogi cyfleusterau, lletygarwch swyddogion a'r tîm fydd yn ymweld a chostau cludiant.
Mae Clwb Pêl-droed Llandudno wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ystyried rhoi'r benthyciad ar yr amod eu bod yn ei dalu'n ôl, yn syth ar ôl derbyn y taliad gan UEFA.