Darganfod darn o aur gwerth £50,000 ar draeth ym Môn

  • Cyhoeddwyd
aur

Mae dyn sy'n chwilota am aur wedi dod o hyd i'r darn mwyaf o aur i gael ei ddarganfod ar ynysoedd Prydain, a hynny ar draeth yn Ynys Môn.

Fe gafodd Vincent Thurkettle, 60 oed, dipyn o fraw, pan ddaeth o hyd i'r talp aur 97.12g ar draeth ger Moelfre.

Y gred yw bod y talp, sydd maint ŵy, yn werth hyd at £50,000.

Credir fod y darn aur yn rhan o gasgliad gwerth £120 miliwn o aur aeth i waelod y môr ar long y Royal Charter, pan gafodd ei dryllio yn ystod corwynt yn 1859.

Mae helwyr trysor wedi treulio 150 mlynedd yn ceisio dod o hyd i olion o'r aur a gollwyd, ac fe dreuliodd Mr Thurkettle saith mlynedd ar draethau'r ardal cyn gwneud y darganfyddiad hwn.

Roedd yn treulio tua chwe wythnos bob haf yn chwilio am lwch aur, gydag aelodau o'i deulu a ffrindiau.

'Syfrdanu'

Dywedodd Mr Thurkettle ei fod wedi ei "syfrdanu" pan welodd yr aur am y tro cyntaf.

"Roedd yr haul allan, felly roedd yr aur yn disgleirio, ac oherwydd ei fod dan ddŵr roedd ei faint wedi ei chwyddo, felly roedd yn edrych yn enfawr," meddai.

"Dim ond llwch yr oeddwn yn disgwyl ei gael, felly doeddwn i ddim yn gallu credu pan ddes i o hyd i'r cnepun enfawr, roedd yn foment hudol."

Fe wnaeth Mr Thurkettle y darganfyddiad yn 2012, ond fe'i cadwodd yn gyfrinach am bedair blynedd.

Pan ddrylliwyd y Royal Charter yn 1859, roedd yn cludo aur o Awstralia i Lerpwl, a bu farw tua 450 o bobl yn y trychineb.