Harriet Harman: Angen i Lafur 'ehangu ei hapêl'
- Cyhoeddwyd

Mae angen i Lafur ddelio gyda'r lleihad yng nghyfran y bleidlais gafodd y blaid yng Nghymru er iddyn nhw ennill etholiad y Cynulliad, yn ôl cyn-ddirprwy arweinydd y blaid.
Dywedodd Harriet Harman nad oedd sefyllfa bresennol Llafur yn ddigon da i guro'r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2020.
Ychwanegodd bod buddugoliaeth yng Nghymru ac yn etholiad Maer Llundain wedi dangos pwysigrwydd apelio ymhellach na chefnogwyr traddodiadol Llafur.
Yn siarad ar BBC Radio Wales, fe wnaeth Ms Harman longyfarch Carwyn Jones; mae disgwyl iddo gael ei enwebu fel Prif Weinidog Cymru ddydd Mercher.
"Yng Nghymru rydyn ni wedi gweld cwymp yn ein cyfran o'r bleidlais, ac yn amlwg rydyn ni angen delio gyda hynny a deall pryderon pobl, a beth ddylwn ni fod yn gwneud mwy ohono ac yn wahanol," meddai Ms Harman.
Fe wnaeth Llafur golli un sedd yn y Cynulliad yn yr etholiad, ond fe wnaeth y blaid golli 7.6% yn ei gyfran o'r bleidlais etholiadol.
Dywedodd Ms Harman bod Jeremy Corbyn wedi cydnabod bod angen i Lafur wneud "llawer iawn yn well" er mwyn dod i bŵer yn San Steffan.
"Yr hyn oedd Sadiq Khan yn ei ddweud, ac yn sicr mae hyn yn debyg i'r hyn mae Carwyn wedi bod yn ei ddweud, yw bod angen ymestyn ymhellach na'r cefnogwyr traddodiadol," meddai.
Ychwanegodd bod angen i Lafur "ehangu ein hapêl" a "gallwn ni ddim bod yn blaid gul sy'n apelio at ein cefnogwyr traddodiadol yn unig".