Ceidwadwyr yn cefnogi Andrew RT Davies yn 'unfrydol'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Andrew RT Davies bod y blaid yn ei gefnogi'n llwyr

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod ACau ei blaid yn ei gefnogi e'n aros yn y rôl, er gwaethaf canlyniad siomedig y blaid yn yr etholiad.

Bu Andrew RT Davies yn siarad â BBC Cymru yn dilyn cyfarfod o'r 11 AC Ceidwadol ddydd Llun.

Dywedodd mai "barn unfrydol y grŵp" oedd y dylai aros, ac roedd ganddo gefnogaeth ASau ac ymgyrchwyr y blaid.

Roedd ffynonellau Torïaidd wedi codi pryderon ynghylch yr arweinyddiaeth ar ôl i'r blaid golli tri AC ym Mae Caerdydd ar 5 Mai.

Cyn y bleidlais yr wythnos ddiwethaf, roedd y Ceidwadwyr wedi cynyddu eu niferoedd o seddi mewn etholiadau blaenorol i'r Cynulliad ac wedi mwynhau etholiad cyffredinol llwyddiannus yn 2015.

Dywedodd Mr Davies bod y penderfyniad wedi cael ei "gwneud i mi".

"Barn unfrydol y grŵp oedd i mi barhau, mae'r ASau wedi rhoi eu barn y dylwn barhau, mae'r aelodau wedi rhoi eu barn y dylwn i barhau," meddai.

"Mae cadeirydd y blaid wedi rhoi ei farn y dylwn i barhau.

"Fe wnai barhau yn y rôl cyn belled gan fy mod yn teimlo bod yna rôl i mi ei chwarae, ond peidiwch â bod o dan unrhyw gamargraff, os credaf fod yna ddewis amgen sy'n gallu cymryd y blaid ymlaen i lefydd eraill, fe fyddai'n trosglwyddo'r baton ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Nick Ramsay y byddai wedi ymddwyn yn wahanol petai'n arweinydd

Mae cyn ymgeisydd i fod yn arweinydd ar y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddai wedi ymddiswyddo petai yn arwain y blaid yn dilyn canlyniadau etholiad y Cynulliad.

Dywedodd yr AC Nick Ramsay ei fod yn hapus i gefnogi'r arweinydd presennol, Andrew RT Davies, ond y byddai wedi ymddwyn yn wahanol petai wedi bod wrth y llyw yn dilyn canlyniad o'r fath.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y bydd Llafur yn debygol o geisio creu llywodraeth leiafrifol, ar ôl i'r blaid ennill 29 allan o 60 seddi yn y Cynulliad.

Bydd y Cynulliad newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Mercher.