Ffermwyr gyda 'chytundeb gwell' yn Ewrop

Dyn

Mae comisiynydd amaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud bod gan ffermwyr Cymru "gytundeb gwell" fel rhan o Ewrop.

Wrth ymweld â Chymru, dywedodd Phil Hogan fod cymorthdaliadau o Frwsel yn cynrychioli "incwm sy'n rhwyd diogelwch i ffermwyr Cymru, sy'n cael ei werthfawrogi".

Mae cefnogaeth i ffermwyr yn cynrychioli 40% o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd, gyda £240m yn cael ei roi mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru yn 2014.

Dywedodd UKIP bod hyn yn "sleisen lai a llai o gacen oedd yn malu, wedi ei dalu mewn arian amheus."

Mewn rhai achosion, gall cefnogaeth arianol gan yr Undeb Ewropeaidd olygu dros hanner incwm rhai ffermwyr, gyda'r ddibyniaeth ar gymorthdaliadau yng Nghymru dair gwaith yn uwch nag yn Lloegr.

"Mae'r arian yma wedi ei sicrhau rhwng nawr a 2020", meddai Mr Hogan.

"Does dim sicrwydd y byddai modd i ffermwyr gael arian o rywle arall os bydde nhw'n cystadlu gyda nyrsys ag athrawon ag ysgolion yng nghyd-destun unrhyw adolygiad gwariant gan lywodraethau Cymru neu'r DU."

Marchnad Sengl

Dywedodd bod mynediad i'r farchnad sengl hefyd yn fater hanfodol i ffermwyr Cymru, gyda 92% o gig oen Cymru a 93% o gig eidion Cymru'n cael ei allforio i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae ffermwyr Cymru'n gwerthfawrogi'r ffaith eu bod yn rhan o farchnad Ewropeaidd fawr o 500m o gwsmeriaid."

"Petai Brexit yn digwydd fe fyddai'n rhaid i Gymru fel gweddill y DU drafod cytundebau masnach rydd eto. Fe fyddai'n dipyn o anghyfleustra", meddai Mr Hogan.

Bydd Mr Hogan yn mynd benben yn erbyn llefarydd UKIP ar amaethyddiaeth, ag aelod o Senedd Ewrop, Stuart Agnew, mewn dadl yn Aberhonddu, Powys, nos Fawrth. Mae'r ddadl wedi ei threfnu gan yr undebau amaeth.

Arian

Dywedodd Mr Agnew wrth BBC Radio Wales fod yr arian wedi gostwng mewn termau go iawn i ffermwyr Cymru ac roedd yn anoddach cael gafael arno.

"Rydym wedi gweld y cyfnod gorau o hyn ac fe all ffermwyr Cymru dderbyn cysur yn y ffaith fod George Eustace, gweinidog DEFRA - sydd yn ymgyrchu i adael Ewrop - wedi dweud y bydd yn cefnogi amaeth yn y dyfodol.

"Mae hyd yn oed y prif weinidog, sydd o blaid yr ymgyrch i aros yn Ewrop, wedi dweud y byddwn yn gwneud hyn.

"Mae 60 o wledydd ar draws y byd yn cefnogi amaeth ac roedd Prydain yn gwneud hyn cyn ymuno gyda'r Undeb Ewropeaidd."

Ond dywedodd Brian Walters, sy'n ffermwr llaeth ag yn ddirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ei fod yn poeni y byddai taliadau'n cael eu torri o draean yr hyn sy'n bodoli nawr. Mae hefyd yn poeni y byddai mynediad i farchnadoedd yn cael eu colli, gyda'r mwyafrif o gig eidion a chig oen yn mynd i Ewrop.

Dywedodd Dai Lloyd Evans, sy'n ffermwr a chyn arweinydd Cyngor Ceredigion ei fod yn sicr fod marchnadoedd yn bodoli fyddai'n croesawu bwyd o safon uchel.

Ychwanegodd ei fod wedi cael "llond bol" ar fiwrocratiaeth a'r rheolau oedd yn bodoli.

"Os ydym yn gwneud unrhyw beth yn groes i'r rheolau maen nhw'n ein cosbi ni'n ariannol," meddai.