Llywydd: Dewis rhwng Dafydd Elis-Thomas ac Elin Jones
- Published
Mae ACau yn wynebu dewis rhwng Dafydd Elis-Thomas neu Elin Jones fel Llywydd nesa'r Cynulliad.
Mae'r ddau o Blaid Cymru wedi cael eu henwebu, gyda John Griffiths ac Ann Jones o'r blaid Lafur yn cynnig eu henwau ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd.
Mae rheolau'r Cynulliad yn dweud na ddylai'r ddwy rôl gael eu llenwi gan ACau o'r un grŵp gwleidyddol.
Prynhawn Mercher ydi'r tro cyntaf i aelodau gyfarfod ers yr etholiad.
Mae 60 o ACau wedi eu dewis ers y bleidlais yr wythnos ddiwethaf, gyda rhai yn wynebau newydd gan gynnwys saith o UKIP. Dyw'r blaid erioed wedi cael aelodau yn gwasanaethu ym Mae Caerdydd o'r blaen.
Y disgwyl ydi hefyd y bydd arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, yn cael ei ail-benodi'n Brif Weinidog.
Llywydd newydd
Rosemary Butler, yr AC Llafur, oedd y Llywydd yn y Cynulliad diwethaf ond doedd hi ddim yn ymgeisydd ar gyfer yr etholiad y tro yma.
Er bod enw David Melding, y Dirprwy Lywydd y tro diwethaf, wedi ei grybwyll, fe ddywedodd nad oedd o eisiau gwneud y swydd.
Mae'r Aelodau Cynulliad Llafur wedi cael gwybod y byddant yn cael pleidlais rydd ar y mater.
Rhai o brif gyfrifoldebau'r Llywydd yw cadeirio cyfarfodydd llawn gyda'r Aelodau Cynulliad, cynrychioli'r Cynulliad fel sefydliad wrth drafod gyda chyrff eraill, a dylanwadu ar y ffordd y mae'n gweithredu o ddydd i ddydd.
Mae'n bosib i eitemau busnes eraill gael eu trafod yn y cyfarfod ddydd Mercher, fel ethol y Prif Weinidog.
Mae Carwyn Jones eisoes wedi dweud y bydd Llafur yn debygol o geisio creu llywodraeth leiafrifol, ar ôl i'r blaid ennill 29 allan o 60 seddi yn y Cynulliad.