Criced Morgannwg: Dim chwarae o achos glaw
- Published
Bydd rhaid i Sir Gaerwrangon aros cyn ceisio sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Morgannwg gan fod y glaw wedi dod a therfyn ar y gêm yn erbyn y ddau glwb yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Daeth y dyfarnwyr Jeremy Lloyds a Paul Pollard a'r gêm i ben am 16.55 o achos y glaw.
Bydd yn rhaid i'r ymwelwyr geisio hawlio 16 wiced ar ddiwrnod olaf y chwarae wedi i Forganwg gyrraedd 42 am 4, gyda 414 o rediadau tu ôl i'r ymwelwyr.
Hwn oedd y tro cyntaf i Forgannwg fethu diwrnod cyfan o chwarae yn y Bencampwriaeth o achos y tywydd ers mis Medi 2013.