Lesotho: Miloedd yn wynebu newyn oherwydd sychder
- Cyhoeddwyd
Mae gwlad fach yn Affrica sydd wedi'i gefeillio â Chymru yn wynebu argyfwng a allai arwain at filoedd o bobl yn marw o newyn.
Mae un o brif asiantaethau dyngarol y byd - World Food Programme - wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen help rhyngwladol ar frys ar Lesotho er mwyn atal trychineb yno yn dilyn sychder difrifol.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae 500,000 o bobl - chwarter y boblogaeth - mewn perygl oherwydd nad ydyn nhw'n cael digon o fwyd, wedi i filoedd o erwau o gnydau fethu ar draws y wlad.
Mae mudiad Dolen Cymru - gafodd ei sefydlu i hybu cysylltiadau rhwng Cymru a Lesotho - yn poeni'n fawr am sefyllfa'r deyrnas fach yn neheudir Affrica.
'Profiad wedi fy sobri'
Bu Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Dolen Cymru, Gareth Morgans yn ymweld â Lesotho yn ddiweddar i weld effeithiau'r argyfwng.
"Mae'r profiad wedi fy sobri i. Mae prinder dŵr ac mae prinder bwyd," meddai.
"Oherwydd y sychder mae prisiau bwyd elfennol - y pethau craidd hynny mae pobl yn dibynnu arnyn nhw - wedi codi yn aruthrol.
"Dyw pobl ddim yn gallu fforddio eu prynu nhw. Dim ond yn yr ysgolion mae llawer iawn o blant yn cael bwyd."
Mae'r gaeaf ar fin dechrau yn Lesotho, ac mae asiantaethau dyngarol yn ofni y gallai'r sefyllfa yno ddirywio gyda'r oerfel.
Mae Unicef yn rhybuddio y gallai hyd at 800,000 o bobl - 40% o'r boblogaeth - fod mewn peryg ymhen rhai misoedd oherwydd diffyg maeth a phrinder bwyd.
Dyma'r eildro i'r darlledwr Garry Owen ymweld â Lesotho. Dywedodd: ''Es i Lesotho am y tro cyntaf yn 2005 i ohebu ar yr argyfwng HIV/AIDS.
''Y tro yma mae' nhw'n wynebu argyfwng newydd ac mi fydd y modd y bydd y wlad yn delio â hyn yn her anferthol.''
Mae ofnau y bydd diffyg maeth yn arwain at salwch, gydag asiantaeth y World Food Programme yn poeni y bydd plant yn enwedig mewn peryg.
Ers degawd, mae pâr o Gaerdydd - Gwenallt a Non Rees - wedi sefydlu clinig ar gyrion Maseru, priddinas Lesotho, gyda chymorth aelodau Capel y Tabernacl, Caerdydd a chyfraniadau ariannol pobl ar draws Cymru.
'Fe allai pobl farw'
Yn y clinig, mae staff meddygol yn pryderu am effeithiau posib y sychder.
"Mae dolur rhydd yn broblem," meddai Dr Edward Ramokepa, sy'n feddyg yn y clinig.
"Mae hynny'n effeithio ar bobl o bob oed, ond yn enwedig plant. Fe allai pobl farw.
"Os nad yw'r sefyllfa yn gwella, ry'n ni'n poeni y gallwn ni fod fel Ethiopia."
Nid dyma'r argyfwng cyntaf i Lesotho wynebu yn ddiweddar. Ers ugain mlynedd mae'r wlad wedi ei llethu gan HIV/Aids, ac mae 23% o'r boblogaeth yn dal wedi eu heintio gyda'r clefyd.
Mwy am sychder Lesotho ar MANYLU ar BBC Radio Cymru am 12:30 dydd Iau ac mewn rhaglen arbennig gyda Garry Owen yn cyflwyno ar S4C, Argyfwng Sychder Lesotho ar 12 Mai am 21:30.