Lesotho: Argraffiadau Gwenallt Rees
- Cyhoeddwyd

Ers degawd, mae pâr o Gaerdydd - Gwenallt a Non Rees - wedi sefydlu clinig ar gyrion Maseru, priddinas Lesotho, gyda chymorth aelodau Capel y Tabernacl, Caerdydd a chyfraniadau ariannol pobl ar draws Cymru.
Bu Gwenallt Rees yn rhannu ei argraffiadau o'i ymweliad diweddaraf i'r wlad â Cymru Fyw.
O fwrw golwg dros gyfnod hir o bron i 50 mlynedd o ymweld â Lesotho mae fy argraffiadau o'r sefyllfa yno fis Ebrill eleni yn rhoi achos i mi lawenhau a thristàu.
Mae Lesotho, a adwaenir fel 'Y Deyrnas yn yr Awyr', gyda'r wlad brydfertha' yn y byd a'i phobol gyda'r addfwyna' ac anwyla' dan haul.
Cefais y fraint o ymweld â Lesotho yn Ne Affrica 11 o weithiau, yn gynta' ym 1969 i hyfforddi athrawon, ac ers 2003, gyda fy ngwraig, i efeillio Eglwys Tabernacl, Caerdydd gydag Eglwys Sefika yn Maseru a thrwy hynny adeiladu clinig, uned mamolaeth a chegin i blant amddifad.
Rhaid cychwyn gydag un o'r prif argraffiadau a gefais o'r wlad eleni, sef i mi sylwi pa mor wyrdd oedd llawer o'r tir - ond mae'n cael ei ddisgrifio fel y 'sychder gwyrdd'.
Cefais ar ddeall mai'r rheswm am y gwyrddni yma oedd am i beth law ddisgyn yn ddiweddar. Ond y trasiedi yw, ni ddaeth y glaw (na digon ohono) ar yr adeg iawn yn y flwyddyn i blannu.
Sefyllfa argyfyngus
Nid sefyllfa newydd mo hyn, oherwydd bu Lesotho yn diodde' o sychder mawr am flynyddoedd lawer.
Hawdd, felly, yw cael eich dallu gan y gwyrddni arwynebol a chamddeall yn llwyr difrifoldeb y sefyllfa gan gredu ei fod yn well nag y mae.
'Does ryfedd i Brif Weinidog Lesotho gyhoeddi yn 2015 bod y wlad mewn sefyllfa argyfyngus oherwydd effaith yr hinsawdd.
Er ymdrechion presennol y Cenhedloedd Unedig i ddosbarthu bwyd i filoedd o deuluoedd tra anghenus mewn dwy ardal dros gyfnod o dri mis, a chyfraniadau ariannol rai gwledydd, nid yw'n ddigon i gwrdd â'r angen dwys presennol, ac nid oes llawer o arwyddion ychwaith am strategaeth i daclo'r sefyllfa tymor hir.
Mae hyn yn galw am sylw brys sydd wedi'i gydlynu, sy'n cynnwys harnesu'r talentau mawr y tu mewn i Lesotho ei hun.
Oherwydd y sychder, mae prinder bwyd yn peri i brisiau y prif fwyd a fwyteir godi bron i 40% ac yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.
Y problemau hyn ar ben clefyd HIV/Aids y mae canran uchel yn dioddef ohono - mae'r sefyllfa yma, yn ei dro, yn gadael tua un o bob tri phlentyn yn amddifad.
Er tristwch mawr, mae gan Lesotho fynydd i'w dringo i sicrhau nad yw'n dal tua'r brig yn rhestr gwledydd tlotaf y byd.
Ond ochor yn ochor â'r sefyllfa tra anodd yma, cefais argraff ffafriol iawn ar sawl agwedd bywyd yn y wlad brydferth ond hynod dlawd yma, sef bod:
- Addysg yn rhad ac am ddim i blant rhwng 6-13 ynghyd â brecwast a chinio rhad iddyn nhw yn yr ysgol;
- Cynnydd sylweddol yn nifer yr athrawon sydd wedi'u hyfforddi;
- Cyfraniad Dolen Cymru ym myd iechyd ac addysg yn dwyn elw i'r ddwy wlad, er enghraifft, wrth drefnu i feddygon o Gymru gael profiad pellach yn Lesotho, i athrawon o Gymru ddarparu peth hyfforddiant mewn swydd i athrawon Lesotho ac i rai athrawon o'r ddwy wlad gyfnewid am gyfnod;
- Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol (6-13) yn ei le ond mae e'n gogwyddo'n gryf tuag at gyflwyno gwybodaeth ar draul datblygu sgiliau perthnasol i gwrdd ag anghenion plant.
Gwelliannau eraill
Ymhlith y gwelliannau eraill a welais, mae:
- Cyflenwad trydan i rannau helaethach o'r wlad;
- Dyfodiad y ffôn symudol yn agor drysau ac yn ehangu gorwelion i nifer;
- Tair cronfa ddŵr gyda pheth elw yn dod i Lesotho trwy law llywodraeth De Affrica;
- Darpariaeth cyffuriau Anti Retroviral yn rhad i leddfu'r diodde' ac i ymestyn bywyd y bobl sydd ag HIV/Aids;
- Pensiwn i bobl dros 60 oed; ysbyty, adeiladau'r llywodraeth a llyfrgell newydd ynghyd â mwy o ffatrïoedd (er bod diweithdra yn uchel);
- Nifer o gapeli mwy o faint yn cael eu hadeiladu i gwrdd â'r cynnydd cyson yn nifer y Cristnogion.
Kea leboha (diolch yn Sesotho).