Risgiau mewn babanod pwysau isel yn uwch
- Cyhoeddwyd

Mae babanod sydd â phwysau geni isel yn wynebu mwy o risg o farw yn ystod eu tyfiant, yn ôl ymchwil newydd.
Mae marwolaethau mewn babanod a phlant sy'n pwyso llai na 2.5kg (5.5lb) pan maent yn cael eu geni 130 gwaith yn fwy aml na babanod sy'n geni ar bwysau arferol.
Cyflyrau yn ymwneud â nerfau a'r ysgyfaint oedd prif achosion marwolaeth y grŵp hwnnw.
Mae'r ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi edrych ar fwy na 12 miliwn o enedigaethau rhwng 1993 a 2011.
O'r grŵp hwnnw, roedd bron i 75,000 o farwolaethau rhwng genedigaeth ac 18 oed, gyda 57,623 (77%) yn digwydd yn ystod blwyddyn gyntaf y plentyn, a 17,267 yn digwydd rhwng un ac 18 oed.
O'r rhai a fu farw dan un oed, amgylchiadau'r enedigaeth, neu enedigaethau cynnar, oedd prif achosion y marwolaethau.
Arwyddocaol
Dywedodd yr Athro Sailesh Kotecha o ysgol feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn gwybod bod pwysau geni isel yn gysylltiedig â chynnydd cyfraddau marwolaethau mewn babandod, fodd bynnag, mae ei gysylltiad â marwolaethau yn hwyrach mewn plentyndod yn llai clir.
"Mae'r astudiaeth hon yn arwyddocaol gan ei fod yn dangos, am y tro cyntaf, bod pwysau geni isel yn gysylltiedig â chynnydd cyfraddau marwolaeth, o fabandod hyd at lencyndod."
Dywedodd y tîm ymchwil eu bod yn credu fod y gwaith yn cryfhau'r angen am opsiynau i dargedu ffactorau sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel.
Ychwanegodd yr Athro Kotecha: "Mae'r astudiaeth yn ailddatgan yr angen i fynd i'r afael â ffactorau pwysig fel mamau yn ysmygu ac amddifadedd sy'n cyfrannu at bwysau geni isel.
"Trwy well ddealltwriaeth a lliniaru'r dylanwadau hyn, gellir lleihau'r arferiad y gwelwn yn yr ymchwil yma."