Glaw yn golygu gêm gyfartal i Forgannwg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Fe wnaeth glaw trwm ar y diwrnod olaf yng Nghaerdydd olygu bod rhaid i Forgannwg a Sir Gaerwrangon setlo am gêm gyfartal.
Roedd y chwarae i fod i ailddechrau am 13:55, cyn i'r glaw ddychwelyd tra bo'r chwaraewyr yn cynhesu.
Dim ond 140 o belawdau gafodd eu bowlio ar draws y pedwar diwrnod, gyda Brett D'Oliveira yn llwyddo i daro 202 heb fod allan i'r ymwelwyr.
Bydd y ddau dîm yn chwarae nesaf ddydd Sul, gyda Morgannwg yn teithio i Sir Gaerloyw.