Gorymdaith yn erbyn costau parcio yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Gwylnos Aberteifi

Mae 40 o berchnogion siopau a chwsmeriaid wedi gorymdeithio trwy ganol Aberteifi fel rhan o ymgyrch i sicrhau parcio am ddim yn y dref.

Cafodd wylnos golau cannwyll ei chynnal y tu allan i Neuadd y Dref yn dilyn yr orymdaith o'r Castell.

Fe arweiniwyd y criw gan Gadeirydd Masnachwyr Aberteifi, Martyn Radley.

Mae perchnogion busnes yn Aberteifi yn dweud bod cynnydd o 20% wedi bod yn ei busnes dros yr haf y llynedd pan gafodd peiriannau parcio eu difrodi mewn 4 o feysydd parcio'r dref, ac roedd ymwelwyr yn gallu parcio am ddim.

Disgrifiad,

Cadeirydd Masnachwyr Aberteifi, Martyn Radley sy'n egluro safbwynt y protestwyr

'Angenrheidiol'

Mae Cyngor Ceredigion wedi gwrthod galwadau gan fusnesau bach i gynnig dwy awr o barcio am ddim.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Trafodwyd y mater yma gan y Pwyllgor Craffu ac ystyriwyd gan y Cabinet, a'r farn yw y dylai ffioedd parcio gael eu gweithredu yn gyson yn y trefi ar draws Ceredigion i gyd.

"Mae hyn yn angenrheidiol yn nhermau cwrdd â'r gost o ddarparu cyfleusterau parcio a helpu i gwrdd â'r pwysau ariannol eithriadol sy'n wynebu'r Cyngor.

"Ymhellach, mae ffioedd parcio yn chwarae rhan wrth helpu i reoli traffig o fewn trefi'r sir."

Mae masnachwyr y dref wedi addo parhau gyda'u hymgyrch.