Llifogydd lleol yn achosi problemau yn y de

  • Cyhoeddwyd
Heol Sailsbury
Disgrifiad o’r llun,
Heol Sailsbury dan ddŵr yng Nghaerdydd

Bu'n rhaid achub dau oedolyn a dau blentyn o gar oedd wedi ei ddal mewn llifogydd yn Ewenni, Bro Morgannwg, ddydd Mercher.

Cafwyd nifer o achosion o lifogydd lleol yn y de rhwng 17:00 a 19:00 wedi i law trwm ddisgyn.

Aeth dŵr i mewn i dafarn y Royal Oak ger Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, ac fe fu difrod i siop ar Heol y Ddinas yno hefyd.

Tafarn arall gafodd ei heffeithio gan ddŵr llifogydd oedd Tafarn yr Angor yn y Tyndyrn, Sir Fynwy.

Ffynhonnell y llun, Jack Vittles
Disgrifiad o’r llun,
Tacsi'n mentro drwy ddŵr ar Heol Lowther yn y brifddinas