Dau o flaen llys wedi marwolaeth milwr yn Aberhonddu
- Published
image copyrightWales News Service
Mae dyn wedi bod o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio'r milwr Matthew Boyd.
Cafodd y Preifat Boyd o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, ei ddarganfod yn anymwybodol ar stryd yn Aberhonddu tua 01:00 fore Sul. Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Fe wnaeth Jake Vallely, 23 oed, ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberhonddu wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth y Preifat Boyd, oedd yn 29 oed.
Siaradodd i gadarnhau ei enw a'i oed, ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa.
Aeth dyn arall, Aaeron Evans, 22 oed, o flaen y llys wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol. Mae e hefyd wedi ei gadw yn y ddalfa.
Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
image copyrightWales News Service