Gwrthdrawiad Sir Fynwy: Dyn mewn cyflwr difrifol
- Published
Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad â char ar yr M48 yn Sir Fynwy.
Cafodd y gŵr 20 oed ei daro gan Ford Focus du ger pentref Rogiet ar y ffordd tua'r gorllewin tua 23:15 nos Fercher.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol a bu'r ffordd ar gau am bum awr.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth.