Cymry'r Eurovision
- Cyhoeddwyd

Nos Sadwrn, 14 Mai bydd nifer o wylwyr teledu ar hyd a lled y wlad yn rhoi eu cefnogaeth i Joe Woolford, Cymro ifanc o Rhuthun fydd yn cynrychioli y DU yng nghystadleuaeth flynyddol yr Eurovison sy'n cael ei chynnal eleni yn Sweden. Dyma i chi rai o gysylltiadau Cymreig eraill y gystadleuaeth dros y blynyddoedd:
Ennill yn '76
Nicky Stevens o Gaerfyrddin yw'r unig un o Gymru (hyd yma!) i brofi llwyddiant yn yr Eurovision. Roedd Nicky yn aelod o Brotherhood of Man ganodd y gân 'Save Your Kisses for Me'. Mae'r grŵp yn dal i deithio yn rheolaidd hyd heddiw ac mae Nicky yn dal i chwifio'r Ddraig fel un o'r aelodau gwreiddiol.
Cymraes yn cnocio'r drws yn '70
Mary Hopkin o Bontardawe oedd y cystadleuydd cyntaf o Gymru i ymddangos ar lwyfan Eurovision. Hi oedd y ffefryn i ennill yn 1970 gyda'r gân 'Knock Knock Who's There?' Ond y Wyddeles, Dana aeth a hi trwy ganu 'All Kinds Of Everything'. Roedd yna rhywfaint o gysur i'r Gymraes gan bod 'Knock Knock Who's There' yn sengl boblogaidd yn y siartiau ar draws Ewrop ac America gan gyrraedd rhif 2 yn siart y DU.
Ball bron ar y bêl yn '92
Mae Michael Ball yn falch o'i wreiddiau Cymreig er mai yng nghanolbarth Lloegr y cafodd o'i eni. Roedd o'n cynrychioli y DU yn yr Eurovision yn 1992 yn Mälmo, Sweden gyda'r gân 'One Moment in Time'. Ond penderfynodd y gwylwyr rnad oedd amser y gân wedi cyrraedd ac fe ddaeth o'n ail. 'Why Me? gan Linda Martin enillodd. O ba wlad yr oedd hi'n dod? Ie, Iwerddon. Yn digwydd bod hefyd cafodd y gân fuddugol ei chyfansoddi gan Johnny Logan enillodd i'r Ynys Werdd yn 1980 ac yn 1987. Mae'r Gwyddelod 'ma yn cael hwyl arni hi yn yr Eurovision!
Je suis Gallois
Yn 1996 Gina G oedd yn cynrychioli y Deyrnas Unedig, ond a oedd 'na gysylltiad Cymreig? Oedd, 'Ooh...Aahhh...Just a Little Bit', gan bod Elaine Morgan O Gaerdydd yn canu i... Ffrainc! Roedd hi'n aelod o'r grwp celtaidd Dan Ar Braz & L'Héritage des Celtes. Hwn oedd y tro cyntaf i gân yn rownd derfynol yr Eurovision gael ei chanu mewn Llydaweg. Dim ond dix huit o bwyntiau gawson nhw gan orffen yn 19eg. Gesiwch pwy enillodd? Ie'r Gwyddelod 'na eto! Eimear Quinn yn canu 'The Voice'.
Jess mewn pryd
Roedd Jessica Garlick yn ferch ysgol ym Mhorth Tywyn pan lwyddodd hi i gael llwyddiant ar gystadlaethau canu ar y teledu gan gynnwys 'Pop Idol' a 'My Kind of Music'. Yn 2002 cafodd hi ei dewis i gynrchioli y DU yn yr Eurovision yn Talinn, Estonia. Daeth hi'n drydydd gyda'r gân 'Come Back'.
Torcalon i Bonnie
Roedd Bonnie Tyler yn boblogaidd ar draws Ewrop cyn Eurovision 2013 gyda chaneuon fel 'Total Eclipse of the Heart' a 'It's a Heartbreak' yn cyrraedd brig y siartiau ar y cyfandir. 'Believe in Me' oedd y gân roedd y gantores o Sgiwen yn ei chanu yn Sweden. Ond, doedd gan y gwrandawyr Ewropeaidd ddim llawer o ffydd yn y gân - 19 oedd hi allan o 23 yn y rownd derfynol neu falle fod pledleisiau Bonnie 'Lost in France'?
Awstralia, Armenia a Chymru
Cafodd y gantores opera ei geni yn Texas a'i magu yn Awstralia, ond cynrychioli Armenia wnaeth Mary-Jean O'Doherty yn Vienna'r llynedd. Beth yw'r cysylltiad Cymreig? Mae Mary yn byw yng Nghaerdydd ac wedi dysgu Cymraeg. Daeth 'Face The Shadow' yn 16eg yn y rownd derfynol ond wnaeth hynny ddim taflu cysgod dros fwynhad y gantores.
...a'r dawnsiwr o Gasllwchwr
A phwy all anghofio perfformiad y Cymro Glen Bartlett ar lwyfan yr Eurovision yn Copenhagen, Denmarc yn 2014? Dywedodd Glen wrth Cymru Fyw:
"Dim ond unwaith yn fy mywyd yr wy' i yn mynd i gael y profiad o ddawnsio o flaen miliynau o bobl ar lwyfan yr Eurovision, ac felly os ydych chi wedi gweld y fideo, gobeithio eich bod yn gallu gweld y pleser sydd ar fy wyneb wrth redeg ar y llwyfan! Gallwch fy ngweld yma ar wefan YouTube o tua 1.40."
Eleni mae Glen yn gweithio gyda hyrwyddwyr y gystadleuaeth.
Gobeithio y caiff o a'r miliynau o wylwyr ar draws Ewrop, yn enwedig yn Rhuthun, noson i'w chofio.