Eurovision: Cymro wedi cael cefnogaeth 'anhygoel'
- Cyhoeddwyd
Mae Joe Woolford yn dweud bod y gefnogaeth yng Nghymru wedi bod yn "anhygoel"
Mae Cymro sy'n cystadlu yng nghystadleuaeth yr Eurovision nos Sadwrn wedi dweud ei fod wedi cael cefnogaeth "anhygoel" adref.
Joe Woolford o Rhuthun a'i ffrind Jake Shakeshaft o Stoke-on-Trent sy'n cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth ar ôl cael eu dewis gan y cyhoedd.
Dywedodd Joe: "Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Adre mae 'na Eurovision parti yn Rhuthun. Maen nhw wedi gwerthu allan yn barod so maen nhw'n paratoi ar gyfer y noson.
"Mae'n wych i wybod pan dwi yn Llundain a ddim adre ma' pawb yng Nghymru wir yn cefnogi'r ddau ohonom ni. Mae'n deimlad neis i fi a dwi'n gyffrous i fynd yna rŵan."
The Voice
Cyfarfod wrth gystadlu ar raglen y BBC, The Voice wnaeth y ddau, cyn dod yn ffrindiau da.
"Yn y diwedd 'naethon ni feddwl pam na wnawn ni ganu hefo'n gilydd a gweld sut mae o'n gweithio.
"Oedden ni'n ysgrifennu pytiau bach ac wedyn yn y diwedd oedden ni'n meddwl, mae hyn yn swnio'n grêt ac mae o'n gweithio, ac rydyn ni wedi mynd o fanna."
Ers cael eu dewis i ganu mae wedi bod yn gyfnod prysur i'r ddau gyda sawl cyfweliad a pherfformiadau mewn partïon Eurovision.
"Croeso i'r byd Eurovision gwyllt yw beth mae lot o bobl wedi bod yn dweud wrthon ni," meddai Joe.
Mae'n cydnabod bod yna bwysau ar eu hysgwyddau ond mae'n dweud ei fod yn teimlo'n falch: "Dwi jyst yn gyffrous i fynd i Stockholm a gobeithio gwneud y gorau fedrai i Gymru a'r DU."