Meddyg wedi 'ychwanegu at gofnod' bachgen ar ôl iddo farw
- Published
Mae llys wedi clywed bod meddyg teulu sydd wedi'i chyhuddo o achosi marwolaeth bachgen 12 oed wedi cyfaddef ychwanegu nodiadau i'w gofnod meddygol ddeuddydd wedi iddo farw.
Bu farw Ryan Morse, o Frynithel, Blaenau Gwent, yn 2012 o gyflwr Addison's.
Mae Dr Joanne Rudling, 46 oed o Gaerdydd, a Dr Lindsey Thomas, 42 o Dredegar, yn gwadu dynladdiad trwy esgeulustod.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau bod Dr Rudling wedi cyfaddef i fethu â chofnodi trafodaeth ar y ffôn gyda mam Ryan cyn iddo farw.
Fe wnaeth salwch Ryan ddechrau ym mis Gorffennaf 2012, ac roedd yn pwyso 4 stôn ac 11 pwys yn unig pan fu farw ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
Mae'r erlyniad yn honni bod mam Ryan, Carol, wedi gwneud nifer o apwyntiadau ym Meddygfa Abernant yn Abertyleri, ac y dylai'r doctoriaid fod wedi sylweddoli ar ei gyflwr.
Mae Dr Rudling hefyd yn gwadu ceisio gwrthdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â chofnod meddygol Ryan.
Clywodd y llys am gyfweliad â Dr Rudling gafodd ei gynnal gan y bwrdd iechyd fis wedi'r farwolaeth.
Dywedodd ei bod wedi cael sgwrs ar y ffôn gyda mam Ryan y noson cyn iddo farw.
Pan ofynnwyd iddi pam nad oedd hi wedi cofnodi hyn yn syth yn ei nodiadau, dywedodd nad oedd hi'n canolbwyntio gan fod y feddygfa wrthi'n cael llawr newydd ar y pryd.
Dywedodd ei bod wedi cofnodi'r drafodaeth yn hwyrach, gan ychwanegu: "Wnes i ddim rhoi unrhyw beth ynddo nad oedd yn wir."
Dywedwyd wrthi ei bod yn bwysig, ar ôl i rywun farw, i wneud yn glir bod cofnod wedi'i ychwanegu ar ôl y farwolaeth, ond fe wnaeth Dr Rudling gyfaddef nad oedd hi wedi gwneud hyn yn glir.
Mae'r achos yn parhau.