Addysg Sir Benfro: Cynghorwyr yn gwrthod cynlluniau
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi penderfynu peidio â chefnogi cynnig i sefydlu ysgol uwchradd ar gyfer disgyblion 11-16 oed yn Hwlffordd.
Roedd swyddogion addysg am uno dwy ysgol uwchradd yn y dre' gan ddarparu addysg i ddisgyblion 11-16 oed, ac yna byddai addysg bellach yn cael symud i Goleg Sir Benfro.
Roedd rhieni disgyblion yn ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward yn anhapus gyda cholli chweched dosbarth.
Mae'r cyngor yn y broses o ad-drefnu addysg uwchradd yng ngogledd a chanolbarth y sir.
O ran addysg cyfrwng Saesneg, roedd ymgynghoriad diweddar yn dangos bod 70% yn anghytuno gyda'r cynlluniau i ganoli addysg chweched dosbarth yng Ngholeg Penfro.
Addysg Gymraeg
Dyw'r newyddion diweddaraf ddim yn effeithio ar y penderfyniad diweddar i godi ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Hwlffordd.
Fel rhan o'r cynllun, bydd yr unig ysgol gynradd Gymraeg yn Hwlffordd, Ysgol Glan Cleddau yn cau ac yn ei lle bydd ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant rhwng 3-16 oed.
Byddai addysg chweched dosbarth i blant cyfwng Cymraeg yn cael ei ddarparu yn Ysgol Preseli, Crymych.
Daeth tua 250 o ddisgyblion i brotestio ger adeiladau'r cyngor cyn y bleidlais dyngedfennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2016