Tantryms

Un cwestiwn ac un cwestiwn yn unig sydd gen i yn sgil digwyddiadau'r pedair awr ar hugain diwethaf. Beth ar y ddaear oedd ar feddwl Carwyn Jones pan benderfynodd galw pleidlais i ethol Prif Weinidog heb sicrhau bod ganddo'r niferoedd i'w hennill?

Mae sawl aelod Llafur wedi cynnig atebion i'r cwestiwn hwnnw. Mae'r rheiny'n amrywio a dydw i ddim yn sicr fy mod mymryn yn agosach at y lan o'u clywed.

Yn ôl un fersiwn o'r stori roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi cyrraedd cytundeb y byddai Plaid yn cael dewis Llywydd y Cynulliad ac o ganlyniad yn rhoi rhwydd hynt i Carwyn gadw ei swydd. Yr honiad yw bod Plaid Cymru wedi torri ei gair ar y funud olaf.

Pe bai hynny'n wir fe fyddai Llafur wedi gwneud môr a mynydd o'r peth. Gallwn ddiystyru'r fersiwn yna'n weddol hawdd felly.

Mae stori arall yn portreadu Carwyn Jones fel rhyw fath o gynllwyniwr Maciafelaidd oedd yn dymuno colli'r bleidlais er mwyn gallu defnyddio fideo o aelodau Ukip yn cefnogi Leanne Wood mewn darllediadau gwleidyddol.

Does ond angen ail-adrodd yr honiad i sylweddoli pa mor wirion yw e. Pam ar y ddaear y byddai Prif Weinidog yn peryglu ei swydd er mwyn cynhyrchu deunydd propaganda ar gyfer etholiad sy'n flynyddoedd i ffwrdd a lle na fydd e'n ymgeisydd?

Serch hynny mae'r ail esboniad yna yn cynnig cliw bach i ni ynghylch meddylfryd o fewn y blaid Lafur a allasai wedi arwain at drybini ddoe.

Am ryw reswm neu'i gilydd mae 'na gred ymhlith actifyddion Llafur bod mwyafrif pobl Cymru yn perthyn i'w llwyth. Eu cred yw bod rhyw 30% o bobol Cymru yn Dorïaid digyfaddawd a digyfnewid. Mae pawb arall yn y bôn yn bobl Llafur - beth bynnag yw eu pleidlais.

Mewn geiriau eraill roedd yr holl bobl yna wnaeth bleidleisio i Blaid Cymru, y Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r gweddill wythnos yn ôl rili, rili, rili moen gweld Carwyn Jones yn llywodraethu am bum mlynedd arall. Oherwydd hynny fe fyddai'n hunanladdiad gwleidyddol i gynrychiolwyr y pleidiau hynny torri'r un gair â Thori neu Ukipwr. Doedd dim peryg felly o alw'r bleidlais.

Dydw i ddim yn gwybod o ble mae'r syniadau yma'n dod ond mae'n rhyfeddod bod rhai o actifyddion Plaid Cymru yn eu credu hefyd. Er mwyn y nefoedd, bois, mae'r pyllau wedi hen gau a neb dan ddeugain yn cofio Margaret Thatcher. Rhowch daw arni.

Heddiw cawsom wybod bod Llafur yn trafod ag Ukip a'r Ceidwadwyr yn ogystal â Phlaid Cymru mewn ymdrech i ddod allan o'r picl. Hynny yw, mae Llafur yn cyflawni'r union bechod a'r un gan Blaid Cymru yr oedd Aelodau Seneddol Llafur yn brefu yn ei gylch ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr.

Yr Aelodau Seneddol oedd yn gwneud hynny, sylwer, nid yr Aelodau Cynulliad. Mae'r rheiny wedi sylweddoli nad oes dewis mewn siambr grog ond siarad - a siarad â phawb. Mae'n biti efallai na sylweddolwyd hynny cyn pleidlais ddoe.