Prif Weinidog Cymru: Cynnal 'trafodaethau ffurfiol'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones a Leanne Wood

Bydd Plaid Cymru a'r blaid Lafur yn cynnal cyfarfod ffurfiol ddydd Gwener mewn ymdrech i ddod o hyd i ddatrysiad dros bwy fydd y Prif Weinidog nesaf.

Roedd y bleidlais i ddewis Prif Weinidog ddydd Mercher yn gyfartal, gyda'r grŵp Llafur a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn cefnogi Carwyn Jones, a'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a saith aelod cynulliad UKIP yn cefnogi arweinydd Plaid, Leanne Wood.

Mae trafodaethau anffurfiol wedi eu cynnal ddydd iau, ond bydd trafodaethau dydd Gwener yn rhai ffurfiol.

Mae'r BBC ar ddeall na fydd Mr Jones na Ms Wood yn mynychu, gyda'r trafodaethau'n cael eu cynnal rhwng aelodau eraill o'r ddwy blaid.

'Diwrnod anodd'

Dywedodd AC Llafur, Vaughan Gething wrth BBC Cymru: "Roedd hi'n ddiwrnod anodd [dydd Mercher] i'r holl sefydliad.

"Rydyn ni'n cydnabod bod gennym ni gyfrifoldebau i bobl Cymru. Rydyn ni'n meddwl bod gennym ni fandad i ffurfio Llywodraeth Lafur yng Nghymru.

"Dy'n ni'n cydnabod mai lleiafrif ydyn ni, a dyna pam rydyn ni'n cynnal trafodaethau."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Vaughan Gething bod "mandad i ffurfio Llywodraeth Lafur yng Nghymru"

Gwrthododd awgrymiadau gan bleidiau eraill bod Llafur wedi ymddwyn mewn modd "trahaus" gan gynnal pleidlais heb sicrhau cefnogaeth mwyafrif.

"Dydyn ni erioed wedi cael mwyafrif yma, ac fel pob tro arall fe wnaethon ni gyflwyno ymgeisydd ar gyfer rôl y Prif Weinidog," meddai Mr Gething.

"Mae hi'n eithaf syfrdanol dweud ei bod yn drahaus i ddweud y dylai arweinydd y blaid fwyaf bod yn Brif Weinidog."

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas: "Rydyn ni'n falch bod Llafur wedi dod atom ni i geisio dod i gonsensws.

"Yfory byddwn yn dechrau trafodaethau ffurfiol gyda'r grŵp Llafur i geisio darganfod ffordd ymlaen i lywodraethu Cymru dros y pum mlynedd nesaf."

Roedd disgwyl i Lafur ffurfio llywodraeth leiafrifol ddydd Mercher cyn i Ms Wood herio Mr Jones yng nghyfarfod cyntaf y Cynulliad yn dilyn yr etholiad.

Mae gan ACau nes 2 Mehefin i benderfynu ar Brif Weinidog neu bydd etholiad arall yn cael ei gynnal.