Tanio ergydion ar gopa'r Wyddfa i ddathlu catrawd
- Published
Fe gafodd ergydion o ganon mawr eu tanio ar gopa'r Wyddfa ar doriad gwawr ddydd Gwener fel rhan o ddathliadau un o gatrodau hynaf y fyddin.
Roedd y milwyr tanio'r canon fel rhan o ddathliadau trichanmlwyddiant Catrawd y Canonau Brenhinol.
Hefyd, bydd baton sy'n cynrychioli hanes y gatrawd - sy'n cael ei chludo o amgylch y byd - yn ymweld â chopa'r Wyddfa.
Fe gafodd y gwn enfawr, sy'n pwyso 2.2 tunnell, ei danio tair gwaith am 05:20.
Bydd y cam nesaf o daith y dathlu yn gweld aelodau o'r fyddin a chadetiaid yn teithio ar y wifren wib ym Mlaenau Ffestiniog ac yna ymlaen i Dyddewi, Sir Benfro mewn taith feics.
Bydd y daith hefyd yn mynd i Aberhonddu, Pen y Fan a Pharc Treftadaeth y Rhondda cyn gorffen gyda saliwt gwn yng Nghaerdydd ddydd Sul.