Poster Cymraeg prin o'r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ei werthu

  • Cyhoeddwyd
PosterFfynhonnell y llun, Rogers Jones & Co

Mae poster Cymraeg prin yn annog pobl i ymuno a'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi gwerthu am £440 mewn arwerthiant ddydd Sadwrn.

Roedd y posteri'n cael eu harddangos rhwng 1914 a 1918, ac mae'n dangos y frawddeg: "Anibyniaeth Sydd Yn Galw Am Ei Dewraf Dyn".

Byddai'r poster yn targedu dynion ifanc o Gymru yn ystod ymgyrch recriwtio gafodd ei ddechrau gan David Lloyd George.

Roedd y poster yn cael ei werthu gan arwerthwyr Rogers Jones & Co ym Mae Colwyn.

Camsillafiad?

Cafodd y poster ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Recriwtio yn Llundain, ond nid yw'n glir pwy wnaeth greu'r dyluniad.

Roedd disgwyl i'r daflen 50cm x 76cm gael ei brynu am rhwng £200 a £300, ond fe ddaeth morthwyl yr arwerthwr i lawr ar £440.

Dywedodd yr arwerthwr, David Rogers Jones: "Dydw i erioed wedi gweld y dyluniad yma o'r blaen, a dwi'n meddwl ei fod yn eithaf prin, ac yn ein atgoffa o'r bywydau gafodd eu colli yn y brwydro."

Ond er i'r poster gael ei arddangos dros Gymru yn ystod y rhyfel, dywedodd Mr Rogers Jones ei fod yn debyg bod camgymeriad sillafu wedi bod ar y dudalen.

"Yr hyn sy'n ddiddorol iawn i fi yw bod y gair 'anibyniaeth' yn ymddangos wedi ei sillfau yn anghywir - i mi fel siaradwr Cymraeg dylai fod yn 'annibyniaeth'," meddai.

"Mae'r copi sydd gan yr archifau milwrol yn cynnwys yr un sillafiad felly mae'n debyg nad oedd unrhyw un wedi gweld y camgymeriad a dechrau argraffiad newydd."