Gall penodiad Hamilton 'ddadwneud' llwyddiant UKIP
- Cyhoeddwyd

Gallai llwyddiant UKIP yng Nghymru gael ei "ddadwneud" yn dilyn penodiad Neil Hamilton fel arweinydd y grŵp yn y Cynulliad, yn ôl cadeirydd cangen y blaid.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Hamilton ennill pleidlais yn erbyn arweinydd UKIP Cymru, Nathan Gill, ddyddiau ar ôl i saith AC UKIP gael eu hethol i'r Cynulliad.
Mae Mr Gill yn parhau yn arweinydd y blaid yng Nghymru.
Yn siarad gyda rhaglen Sunday Politics Wales y BBC, dywedodd James Peterson, sy'n gadeirydd cangen UKIP yng Nghasnewydd, bod gan benderfyniad Mr Hamilton i herio Mr Gill "y gallu i symud y blaid yn ôl".
Ond mae aelod arall sy'n cefnogi Mr Hamilton wedi dweud bod y cyn AS Ceidwadol yn "ticio'r bocsys" i fod yn arweinydd.
Ers i'r ACau gyfarfod i ethol arweinydd y grŵp, mae'r rhwyg o fewn y blaid wedi dod i'r amlwg.
Dywedodd un aelod "na allai weld Mr Hamilton yn uno'r blaid". Dywedodd un arall ei fod yn "gwneud gelynion".
Dywedodd James Peterson bod canlyniad y bleidlais ddydd Mawrth yn golygu bod y rhai wnaeth gefnogi'r blaid yn etholiad y Cynulliad wedi eu "camarwain".
"Dwi'n meddwl bod hi'n rhesymol i bobl ddisgwyl i Nathan Gill fod wrth y llyw a dwi'n meddwl 'na dyna wnaeth bobl bleidleisio drosto," meddai.
Ond mae aelodau eraill wedi croesawu penodiad Mr Hamilton, gan gyhuddo Mr Gill o fod yn "wan".
Dywedodd Joe Smyth, oedd yn ymgeisydd i'r blaid yn Islwyn: "Dwi'n meddwl ei fod yn beth da iawn i UKIP bod Neil wedi ei ethol yn arweinydd y grŵp.
"Fel person mae'n fonheddwr, mae ganddo lwyth o brofiad a gwybodaeth ac i mi mae'n ticio'r bocsys fel arweinydd."
Wrth ymateb i sylwadauMr Smyth, dywedodd Neil Hamilton, bod y blaid wedi bod yn "mynd am yn ôl", ond fe fydd ef yn "creu'r momentwm i wthio ymlaen".
- Bydd mwy ar raglen Sunday Politics Wales ar BBC One am 11:30 ddydd Sul.