Cemegyn wedi'i daflu yn wyneb Cymro yng Ngwlad Pwyl
- Published
Mae cemegyn wedi cael ei daflu yn wyneb dyn o Abertawe oedd ar wyliau yng Ngwlad Pwyl, yn ôl ei frawd.
Roedd Andrew Davies, 36 oed, mewn tafarn yn Krakow pan gafodd y cemegyn - maen nhw'n credu oedd yn gynnyrch glanhau - ei daflu i'w wyneb.
Cafodd ei drin am losg i'w wyneb a'i gorff, a bydd angen misoedd o driniaeth ar ôl hedfan adref yr wythnos diwethaf.
Dywedodd brawd Mr Davies, Steve bod yr ymosodiad wedi digwydd yn dilyn ffrae.
Cyhuddiad
Dywedodd y grŵp eu bod wedi mynd i'r dafarn i ddefnyddio'r toiled, ond dywedodd Steve, 39 oed, eu bod wedi gadael ar ôl gweld llanast yno.
Ond yn ôl Steve, cafodd y grŵp eu beio am y llanast, a chafodd y cemegyn ei daflu arnyn nhw wrth iddyn nhw eistedd y tu allan 10 munud yn ddiweddarach.
Ers dychwelyd i Abertawe, mae'r tad i ddau o blant wedi derbyn triniaeth bellach yn Ysbyty Treforys.
Dywedodd Steve ei fod yn credu bod rhywun wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad.