Gwasanaeth milwrol: Ki Sung-yueng yn dychwelyd i Dde Korea

  • Cyhoeddwyd
kiFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd chwaraewr canol cae Abertawe, Ki Sung-yueng, yn colli diweddglo'r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn, wedi iddo gael ei alw i fyny ar gyfer gwasanaeth milwrol yn Ne Korea.

Fe fydd Abertawe yn chwarae yn erbyn Manchester City ddydd Sul.

Mae'n rhaid i bobl de Korea gwblhau dwy flynedd o wasanaeth milwrol gorfodol cyn eu bod yn 29 oed neu wynebu cael eu halltudio.

Ar ôl ennill y fedal efydd yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, fe gafodd y gwasanaeth gorfodol i Ki, sy'n 27 oed, a'i gyd-chwaraewyr ei leihau i bedair wythnos.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin: "Rydym am iddo gael mwy o amser ar gyfer ei gwyliau."

Mae disgwyl i Ki ddychwelyd i Abertawe ar gyfer sesiynau hyfforddi cyn diwedd mis Gorffennaf.