Prosiect llenyddol i helpu'r meddwl
- Cyhoeddwyd

Bydd gŵyl lenyddol sy'n para am 10 wythnos ym Mhowys, yn dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn.
Mae'r prosiect 'Rhannu Straeon', yn llyfrgell y Gelli Gandryll, yn rhan o Ŵyl y Gwanwyn, ar gyfer pobl â dementia neu iselder, yn ogystal â'u teuluoedd a gofalwyr.
Mae'n canolbwyntio ar ddarllen, gwrando a thrafod llenyddiaeth, a hynny er mwyn helpu blinder meddwl neu iselder, ac i gadw'r ymennydd yn weithgar drwy helpu prosesau'r cof.
Bydd y prosiect yn digwydd bob dydd Llun am 14:00, gan ddechrau ar 16 Mai.
Dywedodd y bardd Emma Van Woerkom, sy'n rhedeg y prosiect: "Drwy arwain trafodaethau, rwyf yn gobeithio rhoi cyfle i bobl hel atgofion unigol, darganfod teimladau a phrofiadau ac adeiladu arnynt.
"Drwy gysylltu llenyddiaeth a gwrando, byddwn yn tyfu mewn hyder, ac yn ysgogi ein meddyliau, ac felly'n gobeithio mwynhau hel atgofion gyda'n gilydd."