Seremoni enwi bad achub newydd
- Cyhoeddwyd

Mae un o fadau achub newydd yr RNLI wedi cael ei enwi mewn seremoni ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.
Mae'r cwch £48,000 wedi ei galw yn "Mary & Archie Hooper" - er cof am gwpl o Landanwg, ger Harlech.
Roedd Mr Hooper, yn gyn rheolwr gyda'r Llynges Frenhinol, a bu ef a'i wraig yn gweithio'n galed i godi arian ar gyfer yr RNLI i brynu cwch newydd.
Roedd y seremoni enwi yn digwydd yng Nghaergybi ddydd Sadwrn.
Roedd cyfle i'r cwch, sydd eisoes wedi cael ei lansio, gael ei drosglwyddo i'r RNLI gan gynrychiolwyr ar ran y teulu, sef Dr Susan Hooper a James Hooper.
Dywedodd Lee Firman, rheolwr gweithrediadau adrannol yr RNLI: " Fel elusen, rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael hwn, sydd wedi ei wneud gan y bobl garedig yma."