Lluniau: Blas ar fwyd y Cofis
- Cyhoeddwyd

Bwyd da, tywydd da, lleoliad da
Ar benwythnos 13-15 cafodd Gŵyl Fwyd Caernarfon ei chynnal. Dyma i chi damaid blasus o'r digwyddiadau a'r stondinau trwy lens y ffotograffydd Iolo Penri:
"Paid a bod yn swil, tyrd allan o dy gragen"
Maen nhw wedi heidio i G'narfon o Fflostryfan a Fflosgadfan!
Pwy sy'n mwynhau Gŵyl Fwyd Caernarfon?
Ci poeth
Mae hi'n jamborî go iawn yma
Mae 'na ddanteithion ynghanol y dre hefyd
Caws dweud 'na gwneud! Peidiwch â thrio hyn adref!
Job sychedig ydi bwyta!
Gwledd liwgar yng nghysgod y castell
Prifardd y peintiau: Myrddin ap Dafydd ar stondin Cwrw Llŷn
Maes B-wyd
Mae'r arogl da yn denu'r cwsmeriaid
Ciwt! Gobeithio nad oedd rhain ar y fwydlen
Ydy Leusa yn rhoi ambell i dip newydd i Lisa?
Wyneb ffrwythlon
Bryn yn dysgu Dyl Mei sut i wneud wy 'di ffrio?
Ci-mwch olwg ar y pysgod
Plu yn diddanu'r dorf
Arwydd clir o lwyddiant yr Ŵyl
"Iym! Welai chi flwyddyn nesa!"