Abertawe 1-1 Manchester City
- Cyhoeddwyd

Mae Manchester City bron iawn yn sicr o'u lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, wedi gêm gyfartal yn Abertawe.
Er i Kelechi Iheanacho roi City ar y blaen wedi pum munud, llwyddodd Andre Ayew i ddod a'r Elyrch yn gyfartal cyn yr hanner.
Digon difflach oedd yr ail hanner, gyda'r naill dîm yn llwyddo i sgorio.
Dyma oedd gem olaf Manuel Pellegrini wrth y llyw yn City, wrth iddynt baratoi i groesawu'r Sbaenwr, Pep Guardiola fel eu rheolwr newydd ar gyfer y tymor nesaf.
Mae Manchester City, dri phwynt ar y blaen i Manchester United, a hynny wedi i'w gêm hwythau yn erbyn Bournemouth, gael ei gohirio yn Old Trafford ddydd Sul.
Fe fyddai angen i Manchester Unired guro Bournemouth o 19-0 er mwyn trechu Man City ar wahaniaeth pwyntiau.