Cyngor Bae Colwyn yn gwahodd meddygon i gyfarfod
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall bod Cyngor Tref Bae Colwyn wedi gwahodd meddygon yr ardal i gyfarfod o'r cyngor llawn oherwydd pryderon am ostyngiad yn y nifer o feddygon teulu yn yr ardal.
Fe ddaw hyn lai nag wythnos wedi adroddiadau bod meddygfa Llys Meddyg yng Nhonwy yn cau ddiwedd mis Hydref.
Mae meddygfa Bae Penrhyn a Deganwy hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn pryderu am eu dyfodol, wedi iddynt fynd o bum meddyg i ddau.
Mewn ymateb ar raglen BBC Radio Cymru, y Post Cyntaf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "derbyn bod her i recriwtio meddygon teulu mewn rhai rhannau o Gymru, o'i gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU.
"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cynnydd o 8 % wedi bod yn nifer y meddygon teulu ers 2005.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu i nodi a goresgyn unrhyw rwystrau recriwtio, a datblygu ffyrdd newydd i wella mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol. "
Daw hyn yn dilyn penderfyniadau tebyg gan feddygon teulu mewn ardaloedd eraill yn y gogledd, gan gynnwys Prestatyn, Rhuddlan, Glan Conwy, Wrecsam a Blaenau Ffestiniog.