Bachgen 11 oed mewn gwrthdrawiad beic dŵr yng Ngwynedd
- Published
Mae bachgen wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic dŵr ar draeth yng Ngwynedd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar draeth Morfa Bychan ger Porthmadog brynhawn dydd Sul.
Fe gafodd y bachgen 11 oed, ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, mewn ambiwlans.
Y gred yw bod y bachgen ar ei wyliau yn yr ardal.
Nid oes mwy o wybodaeth am gyflwr y bachgen ar hyn o bryd.