Gwaith dur Liberty yn Nhredegar i ailagor
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni dur Liberty yn ailagor hen safle gwaith dur yn Nhredegar ym mis Mehefin.
Caewyd y gwaith oedd yn cyflogi 17 gan weinyddwyr yn 2015.
Prynodd cwmni Liberty Steel, sydd yn eiddo i Sanjeev Gupta, y safle oddi wrth gwmni Caparo.
Mae Liberty nawr am ddefnyddio'r safle i wneud darnau metel gan gynnwys pibau dur eto drwy ailgylchu hen fetel.
Hwn fydd y seithfed gwaith ym Mhrydain i'r cwmni ail agor mewn saith mis.
Gweithwyr
Dyw'r cwmni ddim wedi cadarnhau'r union nifer ar hyn o bryd, ond maen nhw'n gobeithio cyflogi 40 o bobl yn y tymor byr ac yna ceisio adeiladu'r gwaith i'r hyn y bu yn ei anterth yn yr 80au a'r 90au pan oedd tua 200 yn gweithio yno.
Wrth baratoi i ailagor, mae'r cwmni wedi cysylltu â chyn-weithwyr ac maen nhw'n gobeithio cynnig cyfleoedd i brentisiaid ifanc.
Dywedodd Mr Gupta, prif weithredwr Liberty: "Bydd Tredegar unwaith eto yn cyflenwi tiwbiau dur i'r wlad. Mae hwn yn newyddion da i'r diwydiant dur yn y DU ac i weithwyr yn ne Cymru."
Bydd y dur i'r gwaith newydd yn dod o felin arall y cwmni, Liberty Steel Casnewydd.
Y gobaith yw y bydd cynnyrch gwaith Tredegar yn disodli'r miliwn tunnell o ddur gaiff ei fewnforio i'r DU pob blwyddyn ar gyfer y diwydiant adeiladu a manwerthu.