Tyfu gwymon yn Noc Penfro fel 'arbrawf biodanwydd'

  • Cyhoeddwyd
Doc PenfroFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe

Mae "fferm" i dyfu gwymon wedi sefydlu yn sir Benfro i weld a ellir defnyddio algâu fel biodanwydd.

Fel rhan o brosiect MacroBioCrude, mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi rhoi'r rhaff 100m o hyd yn Noc Penfro.

Dywedodd un o'r gwyddonwyr morol, Fleuriane Fernandes, fod y rhaff yn llawn o hadau gwymon ifanc. Y gobaith yw medi'r gwymon ymhen chwe mis.

Dywedodd Ms Fernandes: "Rydyn ni'n edrych mewn i gadwraeth gwymon fel bo gennym gyflenwad biomas hir dymor, i'w fedi pob blwyddyn."

Bydd y gwyddonwyr yn profi budd y gwymon, sy'n llawn protein a maetholion, i'r diwydiant bwyd ac iechyd.

Ychwanegodd Ms Fernandes: "Ar hyn o bryd rydyn ni'n tyfu math o'r enw kelp ond hoffem ddatblygu gwymon eraill, fel bara lawr."

Bydd y prosiect, sefydlwyd ar y cyd gydag Awdurdod Porthladd Milffwrdd, yn gorffen ym mis Gorffennaf 2018.