Hen ysbyty meddwl Fictoraidd yn Ninbych ar werth am £2.25m

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gogledd CymruFfynhonnell y llun, Princes Regeneration Trust

Mae perchnogion safle hen ysbyty meddwl Fictoraidd yng ngogledd Cymru wedi ei roi ar y farchnad am bris o £2.25m gyda chyfle i'w ddatblygu.

Daw hyn wedi i Gyngor Sir Ddinbych gael caniatâd pryniant gorfodol ar gyfer safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Roedd y cyn-berchennog, Freemont (Denbigh) Ltd wedi gwrthwynebu'r pryniant gorfodol.

Mae dadlau wedi bod am gryn dipyn o amser rhwng y ddwy ochr am ddyfodol yr adeilad hanesyddol.

Mae'r hysbyseb yn datgan nad yw'r cyngor y bwriadu datblygu'r safle, ond ei fod eisiau "gweithio gyda thrydydd person neu ddatblygwr sydd â'r bwriad o wneud hynny".

Bydd y safle yn cael ei werthu mewn arwerthiant yn ddiweddarach yn y mis, ac mae'r BBC wedi gofyn am sylw gan y cyngor.