Cau hen siop yn Rhydaman o achos 'cost parcio a threthi'
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog busnes yn Rhydaman wedi dweud wrth BBC Cymru bod costau parcio a threthi busnes yn cael effaith negyddol ar y dref, a bod hyn wedi arwain at weld ei siop yn cau.
Bydd Siop Williams Bazaar, sydd wedi bod yn masnachu yn Rhydaman ers bron i 70 o flynyddoedd yn cau yn yr wythnosau nesaf, ac mae'r perchennog am weld newid o'r drefn bresennol er mwyn gwella sefyllfa'r stryd fawr.
Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin fod y gost o barcio yno'n "gystadleuol".
Fe ddwedodd perchennog y siop, Llew Williams: "Ni'n cau achos smo trade fel odd e, ni'n ymddeol hefyd, ond ma'r car parks wedi sbwylo popeth. Dyw pobol ddim yn fodlon talu i ddod i hol torth o fara neu rhywbeth. Ma fe'n costi gormod."
"Mae llai o bobl yn dod mewn achos bod nhw'n gallu parcio lan yn Cross Hands am ddim"
"Ma trethi busnes yn neud lot da fe 'fyd. Ma fe rhyd ddrud, a ma na'n cal effaith ar y busnes."
Yn ôl perchennog busnes arall yn Rhydaman, ma angen newid trefn bresennol taliadau parcio yn y dref.
Fe ddwedodd Deian Harries o siop sgidiau Ar Gered: "Ma 'na broblem parcio yn Rhydaman. Ar y foment ma pobol yn talu £1.50 y dydd, £1 am 4 awr neu 70c am awr. Hwnna yw'r broblem yn Rhydaman.
"Hoffen i weld y tariffs yn newid yn y dre. Hoffen i weld 50c am 2 awr, a falle 20c am hanner awr, so gall pobol dod mewn i'r dre, a bydd pethe bach rhwyddach iddyn nhw."
Taliadau parcio yn 'gystadleuol'
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Sir Caerfyrddin: "Mae taliadau parcio yn Rhydaman yn gystadleuol iawn o'u cymharu â threfi eraill gan gofio mai 70c y codir am awr a £1 am hyd at bedair awr.
"Mae gwerthiant tocynnau ym meysydd parcio Rhydaman yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae nifer y siopwyr yn dangos yr un math o dueddiadau cadarnhaol.
"Mae'r Cyngor Sir yn gweithio gyda chanol y dref er mwyn hyrwyddo cynnig canol y dref. Nid ydym wedi cynyddu'r tâl ers 24 mis."
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyfraddau busnes, ac mewn datganiad ma nhw'n dweud eu bod wedi darparu cefnogaeth sylweddol wedi'i dargedu er mwyn lleihau biliau trethi busnes i fusnesau bach yn benodol.