XI Gorau Cymru erioed: Ydych chi'n cytuno?

  • Cyhoeddwyd

Wrth i bêl-droedwyr Cymru baratoi i chwarae yn rowndiau terfynol Euro 2016, gofynnwyd i un o sylwebwyr pêl-droed BBC Radio Cymru, Gareth Blainey, ddewis yr 11 gorau erioed yn ei farn o i chwarae i'r tîm cenedlaethol.

Penderfynodd roi blaenoriaeth i chwaraewyr ar sail eu campau gyda'u clybiau yn ogystal ag ar sail eu campau gyda Chymru. Dyma dîm Cymru 'ffantasi' Gareth:

1. Golwr, Neville Southall (92 o gapiau, 1982-1997)

Does dim un chwaraewr wedi ennill mwy o gapiau i Gymru na 'Big Nev'. Southall oedd un o golwyr gorau'r byd yn y 1980au a 1990au a daeth i'r adwy i'r tîm cenedlaethol droeon gydag arbediadau ardderchog.

Prif dlysau - gydag Everton - Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf 1985 a 1987; Cwpan Yr FA 1984 a 1995; Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1985.

2. Cefnwr de, Rod Thomas (50 cap, 1967-1977)

Gallwn i fod wedi cynnwys Peter Rodrigues - capten tîm Southampton enillodd Gwpan yr FA ym 1976 - ond Thomas fuasai fy nghefnwr de oherwydd ei lwyddiant gyda Derby. Roedd o hefyd, fel fy nghefnwr chwith Joey Jones, yn nhîm Cymru gurodd Loegr yn Wembley am y tro cyntaf erioed ym 1977 a gallai Thomas a Jones gyfnewid safleoedd pe bai angen gwneud hynny.

Prif dlws - gyda Derby - Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf 1975.

5. Amddiffynnwr canol, John Charles (38 cap, 15 gôl, 1950-65)

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
John Charles yn cael ei fwydo yn Yr Eidal yn ei gyfnod gyda chewri Juventus

Roedd un o chwaraewyr gorau Cymru erioed yr un mor gyfforddus yng nghanol yr amddiffyn ag oedd o yn y llinell flaen. 'Il Gigante Buono' - Y Cawr Addfwyn - oedd y ffugenw roddwyd iddo yn ystod ei gyfnod llewyrchus yn Yr Eidal.

Charles oedd y tramorwr gorau erioed i chwarae dros Juventus yn ôl un arolwg barn gan gefnogwyr y clwb. Doedd o ddim ar gael ar gyfer y gêm gollodd Cymru 1-0 yn erbyn Brasil yn rownd wyth olaf Cwpan Y Byd 1958 oherwydd anaf: dywedodd y rheolwr Jimmy Murphy efallai y buasai'i dîm o wedi ennill gyda Charles yn chwarae.

Prif dlysau - gyda Juventus - Pencampwriaeth Yr Eidal - 'Serie A' - 1958, 1960 a 1961; Cwpan Yr Eidal - 'Coppa Italia' - 1959 a 1960.

6. Amddiffynnwr canol, Kevin Ratcliffe (59 cap, 1980-1993)

Roedd capten Everton a Chymru yn amddiffynnwr cadarn iawn a chyflym iawn. Fel Neville Southall roedd yn aelod allweddol o dîm disglair Everton yn y 1980au a fel Southall a'r rhan fwyaf o'r chwaraewyr eraill yn y tîm rydw i wedi'i ddewis mae'n drueni mawr na chafodd Ratcliffe y cyfle i gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan Y Byd neu rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop.

Prif dlysau - gydag Everton - Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf 1985 & 1987; Cwpan Yr FA 1984; Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1985.

3. Cefnwr chwith, Joey Jones (72 cap, 1 gôl, 1975-1986)

Yn aelod o dîm Lerpwl ddaeth yn agos at ennill 'Trebl' ym 1977, Jones oedd y Cymro cyntaf i chwarae mewn tîm enillodd Gwpan Ewrop pan gurodd y Cochion Borussia Mönchengladbach yn y rownd derfynol. Cryfder Jones oedd ei daclo caled ac yn ôl un o faneri cefnogwyr Lerpwl yn y rownd derfynol: 'Joey Ate The Frogs Legs, Made The Swiss Roll, Now He's Munching Gladbach'.

Prif dlysau - gyda Lerpwl - Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf 1977; Cwpan Ewrop 1977 a 1978.

7. Asgellwr de, Billy Meredith (48 cap, 11 gôl, 1895-1920)

Disgrifiad o’r llun,
Y Cymro lliwgar Billy Meredith (chwith) yn chwarae i Manchester United

Un o sêr cynnar y byd pêl-droed oedd yn gapten tîm Manchester City a sgoriwr eu gôl yn eu buddugoliaeth o 1-0 dros Bolton yn rownd derfynol Cwpan yr FA ym 1904. Cafodd Meredith ei wahardd am 18 mis ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o geisio llwgrwobrwyo un o chwaraewyr Aston Villa cyn gêm olaf City yn Yr Adran Gyntaf yn nhymor 1904-05.

Ar ôl y gwaharddiad treuliodd gyfnod llwyddiannus gyda Manchester United, roedd yn un o sylfaenwyr Undeb Y Chwaraewyr (yr ymgais gyntaf i ffurfio undeb ar gyfer pêl-droedwyr proffesiynol) ac roedd o'n 45 oed pan enillodd ei gap olaf!

Prif dlysau - gyda Manchester City - Cwpan FA 1904; gyda Manchester United - Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf 1908 a 1911; Cwpan FA 1909.

4. Canol y cae, Ivor Allchurch (68 cap, 23 gôl, 1950-1966)

Wnaeth Allchurch ddim ennill un o'r prif dlysau gydag un o'i glybiau - Abertawe, Caerdydd a Newcastle - ond roeddwn i'n teimlo fod rhaid imi gynnwys un o chwaraewyr mwya' dawnus Cymru erioed.

Sgoriodd ddwy gôl yn rowndiau terfynol Cwpan Y Byd 1958 - yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Mecsico ac un o'r goliau gorau yn y gystadleuaeth - foli o bell yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros Hwngari sicrhaodd le tîm Jimmy Murphy yn rownd yr wyth olaf.

11. Asgellwr chwith, Ryan Giggs (64 cap, 12 gôl, 1991-2007)

Un o'r chwaraewyr gorau erioed yn Uwch Gynghrair Lloegr ac ar ben hynny Giggs oedd yr unig chwaraewr i chwarae ymhob un o 22 tymor cyntaf y Gynghrair. Sgoriodd cyn-gapten Cymru o leiaf un gôl i Manchester United ymhob un o 21 tymor cyntaf Y Gynghrair ac mae rhestr y tlysau enillodd gydag United yn un rhyfeddol.

Prif dlysau - gyda Manchester United - Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr 1993, 1994, 1996, 1997, 1999, 2000, 2001, 2003, 2007, 2008, 2009, 2011, 2013; Cwpan Yr FA 1994, 1996, 1999 a 2004; Cynghrair Y Pencampwyr 1999 a 2008.

8. Rôl rydd, Gareth Bale (54 cap, 19 gôl, 2006- )

Disgrifiad o’r llun,
Giggs neu Bale? Mae'n debyg fod honno'n ddadl arall...

Seren lachar y garfan sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 ar ôl i Bale sgorio saith o 11 gôl tîm Chris Coleman yn y rowndiau rhagbrofol. Amhrisiadwy - ond os ydyn ni eisiau cyfeirio at bris, talodd Real Madrid £85 miliwn i Tottenham amdano bron i dair blynedd yn ôl.

Y Cymro cyntaf i sgorio naill ai yn rownd derfynol Cwpan Ewrop neu rownd derfynol Cynghrair Y Pencampwyr pan wnaeth o hynny i Real yn eu buddugoliaeth dros Atletico Madrid ddwy flynedd yn ôl. Gallai Bale a Ryan Giggs gyfnewid safleoedd bob hyn a hyn i ychwanegu at broblemau amddiffynwyr unrhyw dîm fuasai'n wynebu fy nhîm i.

Prif dlysau - gyda Real Madrid - Cynghrair Y Pencampwyr 2014; Cwpan Sbaen - 'Copa del Rey' - 2014.

9. Ymosodwr, Ian Rush (73 cap, 28 gôl, 1980-1996)

Y prif sgoriwr yn hanes tîm Cymru a'r prif sgoriwr yn hanes clwb Lerpwl. Oes angen dweud mwy?! Gwefr oedd gwylio gôl Rush yn y fuddugoliaeth fythgofiadwy o 1-0 dros bencampwyr y byd Yr Almaen ym 1991, ac ar lefel clwb roedd ei bartneriaeth gyda Kenny Dalglish yn un ardderchog.

Prif dlysau - gyda Lerpwl - Pencampwriaeth Yr Adran Gyntaf 1982, 1983, 1984, 1986 a 1990; Cwpan FA 1986, 1989 a 1992; Cwpan Ewrop 1984.

10. Ymosodwr, Mark Hughes (72 cap, 16 gôl, 1984-1999)

Buasai Hughes oedd â'r llysenw 'Sparky' yn ychwanegu sbarc at fy nhîm i wrth godi ofn ar amddiffynnwyr ac yntau'n bartner i 'Rushie''. Yn ogystal â'i record gampus gyda'i glybiau yn Lloegr, y fo yw'r 'Hughes' gorau i chwarae yn llinell flaen tîm Bryncoch United ( 'C'mon Midffîld' - pennod 'Gweld Sêr') - gyda phob parch i George Hughes wrth gwrs.......

Prif dlysau - gyda Manchester United - Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr 1993 & 1994; Cwpan Yr FA 1985, 1990 & 1994; Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1991; gyda Chelsea - Cwpan Yr FA 1997; Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1998 (eilydd na ddefnyddiwyd).

Eilyddion

Golwr, Jack Kelsey (41 cap, 1954-1962); Amddiffynnwr, Fred Keenor (32 cap, 2 gôl, 1920-1932); Canol y cae neu gefnwr chwith, Gary Speed (85 cap, 7 gôl, 1990-2004); Canol y cae, Terry Yorath (59 cap, 2 gôl, 1969-1981); Asgellwr de, Terry Medwin (30 cap, 6 gôl, 1953-1962); Asgellwr chwith, Cliff Jones (59 cap, 16 gôl, 1954-1969); Ymosodwr, Craig Bellamy (78 cap, 19 gôl, 1998-2013).

Ymhlith y chwaraewyr gafodd eu hystyried ar gyfer y garfan roedd y cefnwr de Peter Rodrigues, y cefnwr chwith Alf Sherwood, yr amddiffynnwr canol Mike England, y chwaraewyr canol cae Ron Burgess ac Aaron Ramsey, a'r ymosodwr Trevor Ford.

Ydych chi'n cytuno gyda Gareth Blainey? Cysylltwch gyda Cymru Fyw ar Twitter, Facebook neu ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uki enwi'ch tîm gorau chi.