Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol yn Rhisga
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng tri cherbyd ger Caerffili.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a dwy lori ychydig wedi 09:00 fore Llun ar lon ddeheuol yr A467 yn Rhisga.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble bu farw'n ddiweddarach.
Mae'r ffordd yn parhau ynghau tra bo'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad.