Marwolaeth chwaraewr rygbi: Dyn wedi ei daro'n 'fwriadol'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod chwaraewr rygbi wedi marw ar ôl cael ei daro o'r tu ôl iddo "yn fwriadol" gan ddyn arall yn Abertawe.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Daniel Jason Shepherd, 23, o Sgiwen, wedi taro Jonathon Thomas, oedd yn 34, y tu allan i dafarn y Crosskeys ar Heol y Dywysoges yn dilyn ffrae.
Bu farw Mr Thomas, oedd wedi chwarae rygbi i Abertawe ac Aberafan, yn Ysbyty Treforys yn ddiweddarach.
Mae Mr Shepherd yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad.
'Dim cyfiawnhad'
Clywodd y llys bod Mr Thomas wedi taro yn erbyn y diffynnydd ar y stryd wrth gerdded heibio iddo yn oriau man 1 Tachwedd.
Honnodd yr erlyniad bod Mr Shepherd wedi ymateb yn flin a bod ffrae wedi dechrau rhwng y ddau.
Er hynny, dywedodd Michael Jones ar ran yr erlyniad bod Mr Thomas wedi dweud nad oedd eisiau unrhyw drafferth, a'i fod wedi dechrau cerdded i ffwrdd.
Dywedodd Mr Jones bod y diffynnydd yna wedi taro Mr Thomas, ac "na fyddai yntau wedi gweld hynny'n dod".
Ychwanegodd bod y diffynnydd wedi taro Mr Thomas "heb unrhyw gyfiawnhad".
'Gwneud dim'
Ar ôl yr ymosodiad honedig, mae'r erlyniad yn honni bod y diffynnydd wedi gadael safle'r digwyddiad, a cheisio cuddio'r crys yr oedd wedi bod yn ei wisgo.
Clywodd y llys gyfres o negeseuon rhwng y diffynnydd a ffrind pan ddywedodd y ffrind bod Mr Thomas "wedi gwneud dim".
Clywodd y rheithgor bod y diffynnydd wedi ateb gan ddweud wrth ei ffrind i "ddweud dim", gan ychwanegu "sori dy fod wedi gorfod aros yno, ond doeddwn i methu aros".
Cafodd Mr Shepherd ei arestio'n ddiweddarach y bore hwnnw. Mae'n gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r achos yn parhau.