Llofruddiaeth Tonna: Cyhuddo ail ddyn

  • Cyhoeddwyd
Andrea LewisFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd corff Andrea Lewis ei ddarganfod ddiwedd mis Ionawr

Mae ail ddyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes o ardal Castell-nedd ddiwedd mis Ionawr.

Fe gafwyd hyd i gorff Andrea Lewis, 51 oed, mewn cartref yn Nhonna, ddydd Sadwrn 30 Ionawr.

Roedd disgwyl i Keith Charles Thomas, 46 oed o Gastell-nedd, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Fe ymddangosodd Rhys Trevor Anthony Hobbs, 43 oed, yn yr un llys ddechrau mis Chwefror, lle cafodd ei gyhuddo o lofruddio.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Rob Cronick o Heddlu De Cymru: "Dyma ddatblygiad pellach yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth drasig Andrea Lewis. Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu Andrea yn ystod y cyfnod hwn.

"Os oes unrhyw aelod o'r cyhoedd gyda gwybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth i'n hymchwiliad, mae modd iddyn nhw i gysylltu gyda ni drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1600033245."