Heddlu yn cyhoeddi enw bachgen fu farw yn Noc Penfro
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r bachgen 15 oed a fu farw ger safle Ysgol Penfro yn Noc Penfro ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd: "Gall yr heddlu gadarnhau fod y gwryw a fu farw yn Sir Benfro ar ddydd Llun 16 Mai wedi ei adnabod yn ffurfiol fel Luke Barzewicz-Dower, 15 oed."
Ychwanegodd fod yr heddlu wedi bod yn ymchwilio i'r "farwolaeth drasig" a bod y crwner wedi cael ei hysbysu.
Dywedodd datganiad gan Gyngor Sir Penfro fod bachgen o flwyddyn 10 wedi bod mewn "digwyddiad difrifol" i'r de o safle'r ysgol a bod yr heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad hwnnw.
Mae disgyblion oedd wedi eu heffeithio gan yr hyn ddigwyddodd wedi cael cynnig cefnogaeth, meddai'r cyngor.
Mae'r ysgol yn parhau yn agored.