Bom Old Trafford: Rhan cwmni o Fôn

  • Cyhoeddwyd
Old TraffordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Arbenigwyr difa bomiau yn cyrraedd Old Trafford ddydd Sul

Cwmni o Ynys Môn oedd wedi cyflogi'r cwmni diogelwch a adawodd fom ffug yn Old Trafford.

Bu'n rhaid i'r dorf adael y cae ddydd Sul, a chafodd gêm Manchester United yn erbyn Bournemouth ei gohirio tan nos Fawrth.

Roedd Deacons Canines, o Landegfan, wedi cyflogi Security Search Management & Solutions (SSMS), o Gaint, er mwyn cynnal ymarferiad i hyfforddi cŵn.

Cafodd bom ffug ei adael yno'n ddamweiniol ddydd Mercher diwethaf.

Mae'r BBC wedi cael ar ddeall fod y cwmni o Gaint wedi cofnodi fod y ddyfais ffug wedi ei chasglu.

Dywedodd SSMS fod y digwyddiad yn "sefyllfa anffodus".

Ychwanegodd eu rheolwr gyfarwyddwr, Christopher Reid: "Fy nghamgymeriad i oedd hwn, mae'n rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb llawn".

Cafodd y stadiwm ei wagio wedi i'r "pecyn amheus" gael ei ddarganfod yn un o doiledau'r safle. Cafodd y ddyfais ei dinistrio o dan amodau diogel.

Allai cŵn ddim fod wedi canfod y bom ar ddiwrnod y gêm am nad oedd yn cynnwys ffrwydron, yn ôl datganiad gan Glwb Pêl-droed Manchester United.

'Cwbl warthus'

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Manceinion, Tony Lloyd, wedi galw am ymchwiliad llawn i geisio cael atebion i "sut allai hyn ddigwydd, pam ei fod wedi digwydd a phwy ddylai fod yn atebol".

"Mae'n gwbl warthus fod rhywbeth fel hyn wedi gallu digwydd," meddai. "Fe achosodd y llanast hyn anghyfleusdra mawr i gefnogwyr oedd wedi teithio o bell i wylio'r gêm, fe wastraffodd amser nifer fawr iawn o blismyn a thîm difa bomiau'r fyddin, fe wnaeth roi pobl mewn perygl diangen, gan bod gwagio degau o filoedd o bobl o stadiwm pêl-droed ddim heb risg."

Mae Manchester United wedi dweud y byddan nhw'n rhoi ad-daliad am y gêm ddydd Sul, ac yn cynnig tocynnau am ddim i'r gêm sydd wedi'i ailthrefnu ar gyfer nos Fawrth. Mae clwb Bournemouth hefyd wedi dweud y byddan nhw'n darparu cludiant ar gyfer eu cefnogwyr sydd am deithio i Fanceinion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Stiwardiaid yn gwagio'r stadiwm, sy'n dal 75,000 o bobl