Morgannwg yn colli eto ym Mryste
- Published
Collodd Morgannwg eu gêm yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mhencampwriaeth y Siroedd ym Mryste.
Dechreuodd y diwrnod olaf yn siomedig i'r bowlwyr wrth i'r tîm cartref lwyddo i gyrraedd cyfanswm o 336 yn eu hail fatiad.
Roedd hynny'n golygu bod angen 269 ar Forgannwg i ennill y gêm, ond ddaethon nhw fyth yn agos at hynny wrth i'r batwyr bael diwrnod ofnadwy.
Er i Mark Wallace a Jacques Rudolph sgorio 87 am y wiced gyntaf, fe wnaeth gweddill y batiad ddymchwel yn llwyr.
Graeme van Buuren (3 am 15) a Jack Taylor (4 am 16) oedd sêr Sir Gaerloyw wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 143.
Sir Gaerloyw oedd yn fuddugol felly o 125 o rediadau.
Sgôr terfynol:
Sir Gaerloyw (batiad cyntaf) - 262
(ail fatiad) - 336
Morgannwg (batiad cyntaf) - 330
(ail fatiad) - 143
Sir Gaerloyw'n fuddugol o 125 rhediad.