Cyngor Ceredigion yn trafod ysgolion Dyffryn Aeron
- Cyhoeddwyd

Bydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn trafod dyfodol addysg gynradd yn Nyffryn Aeron ddydd Mawrth.
Mae sawl opsiwn gerbron cynghorwyr, gan gynnwys agor ysgol ardal newydd yn Felinfach ar ôl cau pedair o ysgolion cynradd.
O'r 10 ysgol gynradd yn ardal Aberaeron, mae pedair yn cael eu henwi yn yr opsiynau fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet, sef ysgolion Felinfach, Cilcennin, Ciliau Parc a Dihewyd.
Mae dau opsiwn yn argymell cau'r bedair ac agor ysgol ardal newydd yn Felinfach.
Sefyllfa gyfarwydd
I gefnogwyr ysgol Dihewyd mae'n sefyllfa gyfarwydd - roedd yr ysgol yn wynebu cau rhai blynyddoedd yn ôl.
Ar un adeg dim ond 11 o blant oedd ganddi. Erbyn hyn mae 36 ar y gofrestr ond mae'r dyfodol yn ansicr eto.
Arwyddair yr ysgol yw 'Pentref heb ysgol, pentref heb galon' ac mae rhieni yn addo brwydro i geisio ei diogelu.
"Byddai colli'r ysgol yn drasig i'r ardal gyfan", yn ôl Anna Lewis, mam i ddau o blant yn yr ysgol.
"Ry'n ni'n gymuned glos a chalon y gymuned yw'r ysgol - byddwn ni'n ymladd yn galed dros yr ysgol."
Cyfanswm o 171 o blant sydd rhwng y pedair ysgol - y lleiaf ohonyn nhw yw Ysgol Cilcennin ac mae un o'r opsiynau gerbron y Cabinet yn cynnig cau honno yn unig.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, byddai ad-drefnu yn gostwng nifer y llefydd gwag ac yn lleihau cost yr addysg fesul disgybl. Byddai hefyd yn darparu'r cyfleusterau diweddara'. Ond mae cefnogwyr yr ysgolion yn pryderu beth fyddai effaith cau ar eu cymunedau.
Mae'n gynnar yn y broses a bydd cyfle i drafod ymhellach yn ystod cyfnod o ymgynghori fydd yn dilyn unrhyw benderfyniad gaiff ei wneud gan y Cabinet ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- 4 Mai 2016
- 24 Chwefror 2012