J.O. Hughes, cyn-lywydd y Gymdeithas Bêll-droed wedi marw
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, CBDC
Bu farw cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, J.O. Hughes yn 97 oed.
Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Cynghrair Bêl-droed Ynys Môn yn ystod y 1940au ac fe ddaeth yn aelod o gyngor y gymdeithas yn 1973.
Y tu allan i'r byd pêl-droed bu'n gweithio i'r asiantaeth drwyddedu cerbydau y DVLA yn Llangefni.
Mae teyrnged iddo ar wefan y Gymdeithas yn dweud: ''Yn gawr o ran ei gyfraniad dros y blynyddoedd daeth yn aelod o CBDC wedi blynyddoedd o wasanaeth yn Sir Fôn.
''Am flynyddoedd fe wnaeth gwaith cenhadol gwirfoddol yn y gogledd yn llenwi sawl swydd gyda brwdfrydedd anhygoel.
''Yn gyn-Lywydd ar y Gymdeithas mae pawb o fewn y teulu pêl-droed yn cofio J.O ac yn cydymdeimlo yn fawr gyda'i deulu.''