Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhisga
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn sir Caerffili ddydd Llun.
Roedd Alex Chamberlain, 26 oed, o ardal Argoed, yn gyrru Vauxhall Combo a bu farw wedi'r digwyddiad tua 09:05 ar yr A467 ger Rhisga.
Roedd dwy lori Scania hefyd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac mae swyddogion yn cefnogi'r teulu ar hyn o bryd.